Rheolwr Categori - Caffael x 2
- Employer
- Aberystwyth University
- Location
- Aberystwyth, Ceredigion - Er, byddai modd gwneud trefniadau ar gyfer gweithio o bell
- Salary
- £35,326 - £40,927 y flwyddyn
- Closing date
- 26 Sep 2021
View more
- Specialist Area
- Procurement, Category management
- Job Level
- Manager
- Sector
- Education
- Contract Type
- Interim, contract and temporary
- Hours
- Full Time
- CIPS Membership
- CIPS member, Non CIPS member
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig. Byddai modd gwenud trefniadau ar gyfer gweithio o bell.
Mae'r Brifysgol yn newid y ffordd y mae'n caffael ei nwyddau a'i gwasanaethau yn sgil derbyn cymeradwyaeth ar lefel bwrdd ar gyfer Prosiect Gwella Caffael, sydd â statws prosiect o bwys. Bydd y prosiect yn adrodd i Weithrediaeth y Brifysgol drwy strwythur rheoli cymeradwy ac mae'n cyd-daro'n llwyr â'r gwaith o gyflawni nodau ac amcanion Cynllun Strategol y Brifysgol.
Ein nod yw gwella'r swyddogaeth gaffael er mwyn darparu cyfeiriad a chydlynu strategol i sicrhau gwerth am arian. Cyflawnir hyn drwy gynlluniau a strategaethau caffael cynaliadwy, effeithiol ac effeithlon. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli risgiau a chydymffurfio â chyfraith caffael y DU, ymgysylltu'n weithredol â'r holl randdeiliaid perthnasol, hwyluso arloesi a gwella holl weithgareddau caffael y Brifysgol yn barhaus i gefnogi strategaeth y Brifysgol. Un o'r prif alluogwyr i gyflawni hyn yw mabwysiadu dull rheoli categori, felly rydym yn awyddus i benodi 2 x Reolwr Categori i arwain wrth ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, a'u rhoi ar waith, gyda chymorth cynrychiolwyr allweddol o blith y rhanddeiliaid a dadansoddwr data.
Bydd y Rheolwyr Categori yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni ein hamcanion. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau buddiannau, gan gynnwys arbedion arian parod, mewn categorïau allweddol o wariant i gefnogi cynllun cyffredinol y prosiect.
Rhagwelir y bydd gan ddeiliad y swydd brofiad sylweddol ym maes rheoli categori a rheoli'r berthynas â chyflenwyr. Yn ogystal â bod yn rheolwr perthynas ardderchog a rhagweithiol, chi fydd yr arbenigwr ar gyfer ystod ddethol o gynhyrchion a gwasanaethau, gan ddarparu cyngor proffesiynol ac arbenigol ar bob agwedd ar gyfraith caffael ac arferion gweithredu i rhanddeiliaid mewnol wrth reoli eu prosiectau caffael.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Mike Smith ar mks@aber.ac.uk.
Cyf: FIN.21.3750
O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, mae'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR). I gael rhagor o wybodaeth am y broses noddi, gweler y disgrifiad swydd.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr Duon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig (BAME) ac ymgeiswyr sydd ag anableddau. Rydym yn annog ymgeiswyr benywaidd yn benodol i ymgeisio am y swydd hon gan nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol ar y lefel hon yn ein sefydliad ar hyn o bryd.
Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Get job alerts
Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.
Create alert