Skip to main content

This job has expired

Rheolwr Categori - Caffael x 2

Employer
Aberystwyth University
Location
Aberystwyth, Ceredigion - Er, byddai modd gwneud trefniadau ar gyfer gweithio o bell
Salary
£35,326 - £40,927 y flwyddyn
Closing date
26 Sep 2021

View more

Specialist Area
Procurement, Category management
Job Level
Manager
Sector
Education
Contract Type
Interim, contract and temporary
Hours
Full Time
CIPS Membership
CIPS member, Non CIPS member

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig. Byddai modd gwenud trefniadau ar gyfer gweithio o bell.

Mae'r Brifysgol yn newid y ffordd y mae'n caffael ei nwyddau a'i gwasanaethau yn sgil derbyn cymeradwyaeth ar lefel bwrdd ar gyfer Prosiect Gwella Caffael, sydd â statws prosiect o bwys. Bydd y prosiect yn adrodd i Weithrediaeth y Brifysgol drwy strwythur rheoli cymeradwy ac mae'n cyd-daro'n llwyr â'r gwaith o gyflawni nodau ac amcanion Cynllun Strategol y Brifysgol.

Ein nod yw gwella'r swyddogaeth gaffael er mwyn darparu cyfeiriad a chydlynu strategol i sicrhau gwerth am arian. Cyflawnir hyn drwy gynlluniau a strategaethau caffael cynaliadwy, effeithiol ac effeithlon. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli risgiau a chydymffurfio â chyfraith caffael y DU, ymgysylltu'n weithredol â'r holl randdeiliaid perthnasol, hwyluso arloesi a gwella holl weithgareddau caffael y Brifysgol yn barhaus i gefnogi strategaeth y Brifysgol. Un o'r prif alluogwyr i gyflawni hyn yw mabwysiadu dull rheoli categori, felly rydym yn awyddus i benodi 2 x Reolwr Categori i arwain wrth ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, a'u rhoi ar waith, gyda chymorth cynrychiolwyr allweddol o blith y rhanddeiliaid a dadansoddwr data.

Bydd y Rheolwyr Categori yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni ein hamcanion. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau buddiannau, gan gynnwys arbedion arian parod, mewn categorïau allweddol o wariant i gefnogi cynllun cyffredinol y prosiect. 

Rhagwelir y bydd gan ddeiliad y swydd brofiad sylweddol ym maes rheoli categori a rheoli'r berthynas â chyflenwyr.  Yn ogystal â bod yn rheolwr perthynas ardderchog a rhagweithiol, chi fydd yr arbenigwr ar gyfer ystod ddethol o gynhyrchion a gwasanaethau, gan ddarparu cyngor proffesiynol ac arbenigol ar bob agwedd ar gyfraith caffael ac arferion gweithredu i rhanddeiliaid mewnol wrth reoli eu prosiectau caffael.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Mike Smith ar mks@aber.ac.uk.  

Cyf: FIN.21.3750

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, mae'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR). I gael rhagor o wybodaeth am y broses noddi, gweler y disgrifiad swydd.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr Duon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig (BAME) ac ymgeiswyr sydd ag anableddau. Rydym yn annog ymgeiswyr benywaidd yn benodol i ymgeisio am y swydd hon gan nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol ar y lefel hon yn ein sefydliad ar hyn o bryd.

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert